Rhag-archebwch albwm newydd Gwenno


Heddiw mae Gwenno’n cyhoeddi fod ei halbwm newydd Utopia, a fydd yn cael ei ryddhau ar 11 Gorffennaf drwy Heavenly Recordings, ar gael i rag-archebu’r record corfforol a digidol. Mae’r albwm yn dilyn ei thrydydd albwm, Tresor, a gafodd enwebiad ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Mercury yn 2022.

Mae Gwenno Saunders wedi bod yn sawl person gwahanol dros 43 o flynyddoedd o’i bywyd: y ferch ysgol o Gaerdydd; y ddawnswraig yn Las Vegas yn ei harddegau; y gantores gyda’r band pop indie The Pipettes. Bu ymddangosiad mewn ffilm Bollywood, taith clybiau nos a chyfnod yn glanhau lloriau tafarn yn nwyrain Llundain. Cyn iddi ddod yn gantores unigol llwyddiannus yn y Gymraeg a’r Gernyweg, yn enillydd Gwobr Gerddoriaeth Cymru, yn enwebai y Mercury, ac yn Fardd gyda Gorsedh Kernow—roedd yna ddyddiau yn Nevada, Llundain a Brighton; dyddiau o ddawnsio Gwyddelig, dawnsio mewn clybiau techno, a chyfnodau o anhrefn .

Mae Utopia, sef pedwerydd albwm unigol Saunders, yn archwiliad o’i holl fywydau gwahanol. Os yw’r gantores yn ystyried ei thair record gyntaf — Y Dydd Olaf (2014), Le Kov (2018) a Tresor (2022) — fel “recordiau plentyndod”, wedi’u gwreiddio yn ei magwraeth, ei rhieni, a’i chyfnodau ffurfiannol, yna mae Utopia yn giplun ar gyfnod o ddarganfod ei hun — o’r blynyddoedd rhwng bod yn ferch i rywun, yn wraig ac yna’n fam. O ganeuon dawns i faledi piano, gyda chyfraniadau gan Cate Le Bon ac H. Hawkline, ceir hefyd gyfeiriadau at William Blake, hoff gerdd Gwenno gan Edrica Huws, a’r bws rhif 73. Dyma ei gwaith gorau hyd yma.

Mae’n albwm sy’n crisialu 25 mlynedd o fywyd. “Yn yr holl gyfnod o fod yn oedolyn,” meddai hi. “Rych chi’n cyrraedd ryw bwynt a meddwl ‘Ath y chwarter canrif yna’n gyflym!’ Fi isie cydnabod hynny, a’i barchu, a dweud—er gwell neu gwaeth—dyna ddigwyddodd.”


I gyd-fynd gyda’r cyhoeddiad, mae Gwenno wedi rhannu’r brif sengl, sef “Dancing On Volcanoes” ynghyd â fideo du-a-gwyn a gafodd ei saethu yn Las Vegas. Dros drac cefndirol sy’n gyrru fel ryw fersiwn motorik o The Smiths, mae Gwenno’n edrych nôl ar lawr dawnsio sydd wedi hen ddiflannu—at y weithred o ddawnsio fel catharsis a’r teimlad hudolus a phrydferth o golli arno’ch hun tan 5am mewn amgylchfyd newydd a dieithr. Mae’n gyfraniad perffaith gan un o gerddorion mwyaf creadigol a phenderfynol y wlad.

Wrth sôn am yr hyn wnaeth ysbrydoli’r gân, dywedodd Gwenno: “.. Jarvis Cocker yn dawnsio ar ei ben ei hun ar y llwyfan, wedi’i amgylchynu gan fŵg, gan grisialu’n berffaith y gwaddol o golli dawnsio ac yfed gyda’n gilydd mewn lleoliadau bach, wrth i ni symud ein cyrff a chydio mewn llaw… dawnsio tan 5am ym mwyty Le Mandela yn Grangetown, Caerdydd… mynegiant berffaith y Pet Shop Boys ar y bywyd modern… enaid Johnny Marr ar y gitâr gyda dylanwadau y moroedd Celtaidd yn llifo drwy’r cenedlaethau.. yr angen i ddawnsio fel gweithred gathartig… mae’r cyfan yma – Dancing on Volcanoes!


Mae Heavenly & Friends yn falch o gyflwyno sioe unigryw gan un o artistiaid mwyaf chwyldroadol y label.

Bydd Gwenno’n perfformio sioe canol dydd yn The Social, 5 Little Portland Street, Llundain ar Ebrill 26ain. Yn y gig arbennig hwn, bydd Gwenno’n perfformio set piano unigol gan gyflwyno deunydd newydd o’i phedwerydd albwm Utopia—albwm sy’n dogfennu blynyddoedd rhwng bod yn “ferch i rywun, gwraig i rywun, a mam i rywun.” Bydd Gwenno hefyd yn canu rhai o glasuron dethol o’i recordiau blaenorol, Y Dydd Olaf, Le Kov a Tresor.

Bydd sioe Gwenno yn The Social yn cyd-fynd gyda lansiad arddangosfa ym mar uchaf The Social. Mae Utopia on Film: A Visual Soundscape yn arddangos casgliad o ddelweddau ar ffilm gan yr artist Gymreig Clare-Marie Bailey, a hefyd greodd ddelweddau ar gyfer albwm Tresor Gwenno. Mae pob llun yn cipio tirluniau amrywiol a ysbrydolodd yr albwm—o egni bywiog Las Vegas i naws ddinesig Llundain. Mae’r arddangosfa’n cynnig cipolwg ar enaid yr albwm mewn ffordd na all ffilm mo’i gyfleu. Mae pob llun yn adrodd stori wrth i Utopia ddatblygu ffrâm wrth ffrâm. Bydd Gwenno a Clare-Marie Bailey ar y llwyfan ar gyfer sesiwn holi-ac-ateb ar ddiwrnod y gig.

Bydd cefnogaeth ar y diwrnod gan Iko Chérie a TV For Cats. Mae’r tocynnau’n gwerthu’n gyflym iawn – felly mynnywch docyn os ydych am fynd a chofiwch gynnwys y côd “GWENNO-SOCIAL-UTOPIA” wrth gadarnhau’r taliad.

Next
Next

Pre-order the new Gwenno album